Mae Cynghorau Iechyd Cymuned bob amser wedi cael hawl statudol i ymweld ag ysbytai a chlinigau, ac erbyn hyn mae ganddynt yr awdurdod i gynnwys sefydliadau gofal sylfaenol lle y cyflwynir gwasanaethau GIG. Mae hyn yn cynnwys meddygfeydd, deintyddion, optegwyr, fferyllwyr a chartrefi nyrsio.
-
Mae nifer o gymunedau gwahanol ac amrywiol mewn ardal mor fawr â Gwent. Cynhelir ymweliadau â safleoedd y prif ysbytai a sefydliadau iechyd meddwl ar sail Gwent gyfan ac aelodau yn eu hardaloedd unigol sydd yn ymweld â meddygfeydd ac ysbytai cymuned.
-
Yn ychwanegol at yr ymweliadau monitro sydd wedi’u trefnu, gellir galw ar grŵp o aelodau ar fyr rybudd i gynnal ymweliad Ymateb Cynnar sydd efallai wedi deillio o bryderon a dderbyniwyd am agweddau triniaeth, gofal neu amgylchedd
-
Mae cysondeb, effeithlonrwydd a sensitifrwydd yn ffactorau pwysig wrth gynnal ymweliadau monitro a rhaid i aelodau fod wedi derbyn hyfforddiant ac unrhyw arweiniad angenrheidiol i’w cynorthwyo gyda’r gwaith hwn.