Neidio i'r prif gynnwy

Prosiectau Cenedlaethol

Drwy gydweithio, mae'r Bwrdd a CICau yn tynnu sylw at faterion sy'n effeithio ar brofiadau pobl ledled Cymru, neu a fydd yn effeithio arnynt. Rydym yn defnyddio ein gwybodaeth leol i lywio'r agenda genedlaethol a herio llunwyr polisi a'r rhai sy'n darparu ein gwasanaethau i wneud yn well.

Rydym yn gwneud mwy na chynnig ymatebion i faterion a godir gan eraill; rydym yn cyflwyno’r achos dros newid mewn perthynas â'r materion hynny sydd bwysicaf i gleifion a'r cyhoedd, gan ddisgrifio’r meysydd lle mae angen gwneud gwelliannau, a dwyn y GIG yng Nghymru i gyfrif am ei berfformiad.

Un o'n swyddogaethau allweddol fel Cyngor Iechyd Cymuned yw monitro'r gwaith a wneir gan y Bwrdd Iechyd a gwasanaethau lleol y GIG. Rydym yn gwneud hyn er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael y gofal iechyd gorau posibl a, lle na chyrhaeddir y safonau, rydym yn ceisio deall pam a'r hyn sy'n cael ei wneud i ddatrys y problemau.

Yn ystod 2021/22, byddwn yn gwneud y canlynol:

Cefnogi'r prosiectau cenedlaethol a sefydlwyd gan Fwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru.