Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau Rhanbarthol i'r GIG

Fel cyrff statudol, dylai'r GIG roi gwybod i'r saith Cyngor Iechyd Cymuned yng Nghymru am yr holl newidiadau brys neu newidiadau a gynlluniwyd i wasanaethau. Mae hyn yn cynnwys newidiadau i wasanaethau sy'n cwmpasu sawl ardal y GIG (newidiadau rhanbarthol) ac sy'n effeithio ar ardaloedd dau Fwrdd Iechyd neu fwy. Nod ein cyfranogiad yn y cynigion i newid hyn yw sicrhau bod barn y cyhoedd a chleifion wrth wraidd y newidiadau ar lefel leol a rhanbarthol ac y bydd yr effaith ar ddefnyddwyr y gwasanaethau mor gadarnhaol â phosibl.

Caiff penderfyniadau'r Cyngor Iechyd Cymuned i gefnogi neu wrthod cynigion i newid eu gwneud yn ein Pwyllgor Cynllunio Gwasanaethau a'n Pwyllgor Gweithredol, sy'n agored i'r cyhoedd er mwyn cefnogi tryloywder a bodloni ein Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru gyfan. Gallwch weld amserlen o'n cyfarfodydd cyhoeddus sydd wedi'u trefnu yn y tab Amdanom Ni ar ein gwefan yn yr adran Ein Cyfarfodydd.

Lle y bo angen, mae'r Cyngor Iechyd Cymuned yn sicrhau y dilynir fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer ymgysylltu ac ymgynghori â'r cyhoedd.

Ar hyn o bryd, rydym yn rhan o gynigion a chynlluniau rhanbarthol y canlynol:

  • Gwasanaethau gwefus a thaflod hollt
  • Rhwydwaith Trawma Mawr (cwblhawyd)
  • Gwasanaethau Trafnidiaeth i Fabanod Newydd-anedig (De Cymru a De Powys)
  • Gwasanaethau Canser Oesoffagaidd a Chanser Gastrig
  • Gwasanaethau Offthalmoleg (gofal llygaid)
  • Endocrinoleg Pediatrig
  • Gwasanaeth Amenedigol i Famau a Babanod
  • Tomograffeg Allyriadau Positron
  • Model Ffonio'n Gyntaf (gofal brys)