Mae’r datganiad hygyrchedd yma yn berthnasol i wefan CIC Aneurin Bevan: www.aneurinbevancic.cymru
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth rydym yn ei darparu a’i chyfathrebu mewn ffyrdd sydd yn ateb eu hanghenion unigol. I wneud hyn, fe ddylech allu:
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall. Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w ddefnyddio os oes gennych anabledd.
Mae’r wefan yma wedi cael ei hadeiladu gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ac mae’n cael ei rhedeg gan CIC Aneurin Bevan.
Rydym yn gwybod nad ydy rhai rhannau o’r wefan yma yn gwbl hygyrch:
Os ydych angen gwybodaeth am y wefan yma mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda: E-bost
Fe fyddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu gyda chi mewn 10 diwrnod gwaith.
Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd i wella hygyrchedd y wefan yma. Os ydych yn darganfod unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen yma neu os ydych chi’n meddwl nad ydym yn ateb gofynion hygyrchedd, cysylltwchos gwelwch yn dda gyda: E-bost
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sydd yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) Cyrff Cyhoeddus (‘y rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch gyda’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb
Mae CIC Aneurin Bevan wedi ymrwymo i wneud y wefan yma yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) Cyrff Cyhoeddus 2018.
Mae’r wefan yma yn rhannol gydymffurfio gyda Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1 safon AA, oherwydd y diffyg cydymffurfiaeth a’r esemptiadau a restrir isod.
Tra ein bod yn ymdrechu i ateb ‘WCAG 2.1 AA’ ar hyn o bryd mae gennym y problemau cydymffurfiaeth canlynol:
Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru sydd yn darparu cefnogaeth dechnegol i’n gwefan yn bwriadu cywiro’r methiannau yma erbyn Ionawr 2021.
Tra y byddwn yn blaenoriaethu gwybodaeth am ein gwasanaethau a’n gweithgareddau i sicrhau ei fod yn ddigidol hygyrch lle bynnag mae’n bosibl, rydym yn gwybod bod rhai adrannau o’n gwefan o natur corfforaethol, sydd ddim yn hygyrch ar hyn o bryd ac sydd wedi eu cynhyrchu ers Medi 2018.
Ar gyfer yr adrannau yma, fe fyddwn yn nodi lle rydym yn gwybod nad ydy dogfennau yn cydymffurfio ac yn darparu manylion cyswllt lle bynnag mae’n bosibl. Wrth i ddogfennaeth gael ei ddiweddaru yn y dyfodol, fe fyddwn yn sicrhau bod hygyrchedd digidol yn cael ei ystyried.
Mae rhai o’n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, ar adegau mae gennym ddogfennau PDF gyda gwybodaeth ar sut i gael mynediad i’n Gwasanaethau Eiriolaeth.
Dydy’r rheoliadau hygyrchedd ddim yn ei gwneud yn ofynnol inni gywiro dogennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw’n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Dydyn ni ddim yn bwriadu cywiro unrhyw ddogfennau PDF na dogfennau eraill nad ydyn nhw’n hanfodol a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018, er enghraifft papurau cyfarfodydd, cofnodion a chamau gweithredu ac adroddiadau ymweliadau. Ond, fe fyddwn yn ceisio gwneud unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd yn hygyrch lle bynnag mae’n bosibl.
Dydyn ni ddim yn bwriadu ychwanegu penawdau i ffrydiau sain neu fideo byw. Ond, fe fyddwn bob amser yn anelu at ddarparu fersiynau gydag is-deitlau o fideos wedi’u cyn recordio a gynhyrchir.
Rydym yn bwriadu nodi a chywiro problemau yn unol â’r amserlenni a ddangosir ar gyfer pob maes uchod, mewn partneriaeth gyda ein darparwyr cefnogaeth technegol, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.
Rydym hefyd yn bwriadu addasu ein safonau cyhoeddi i gymryd i ystyriaeth yr angen i wneud ein gwybodaeth yn hygyrch drwy’r wefan ac unrhyw apiau y gallwn eu defnyddio yn y dyfodol.
Paratowyd y datganiad yma ym mis Hydref 2020, yn seiliedig ar gydymffurfiaeth a diffyg cydymffurfiaeth technegol fel a nodwyd gan ein darparyr cefnogaeth technegol. Caiff y wefan ei hadolygu yn fewnol ac yn allanol dros y misoedd nesaf a chaiff ein datganiad ei ddiweddaru ym mis Ionawr 2021.
Roedd ac mae’r wefan yma yn cael ei phrofi ar hyn o bryd ar gyfer cydymffurfiaeth gyda Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We V2.1 lefel AA ac mae’r profion hyn wedi cael eu cynnal yn fewnol.