Yn CIC Aneurin Bevan, rydym yn ymdrin â phob agwedd ar y GIG ac mae gennym yr hawliau canlynol:
- i'r Bwrdd Iechyd ymgynghori â ni ar newidiadau sylweddol i batrymau gofal iechyd yng Ngwent
- I ymweld â safle
- cael cyfarfodydd ffurfiol â'r Bwrdd Iechyd a chael y wybodaeth sydd ei hangen arnom i gyflawni ein dyletswyddau
Yn CIC Aneurin Bevan, rydym yn gwneud y canlynol:
- monitro ansawdd gwasanaethau lleol
- gwneud awgrymiadau er mwyn gwella safon gofal iechyd
- gweithredu fel eiriolwyr cleifion drwy roi cyngor, gwybodaeth a chymorth wrth wneud cwyn
Rydym yn eich cynrychioli drwy wneud y canlynol:
- gwrando ar farn y cyhoedd a chleifion
- ymweld ag ysbytai a gwasanaethau iechyd eraill
- cynnal arolygon annibynnol er mwyn cael barn cleifion a'r cyhoedd
- cynnwys pobl mewn ymgynghoriadau lleol
- ymateb i ymgynghoriadau ar newidiadau i wasanaethau iechyd lleol
- argymell gwelliannau i wasanaethau lleol
Rydym ar hyn o bryd yn edrych am aelodau llawn a chyfetholedig o bob rhan o Went. Nid yw'r swyddi yn swyddi â thâl, ond ad-delir unrhyw dreuliau.
Am ragor o wybodaeth, cymorth neu gyngor, cysylltwch â
Miss Jemma McHale, Prif Swyddog
Cyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan
Tŷ Raglan
6-8 Clôs William Brown
Parc Busnes Llantarnam
Cwmbrân
NP44 3AB
Ffôn: 01633 838516
E-bost: enquiries.aneurinbevanchc@wales.chc.org.uk
Am ragor o wybodaeth, cymorth neu gyngor, cysylltwch â
Miss Jemma McHale, Prif Swyddog
Cyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan
Tŷ Raglan
6-8 Clôs William Brown
Parc Busnes Llantarnam
Cwmbrân
NP44 3AB
Ffôn: 01633 838516
E-bost: enquiries.aneurinbevanchc@wales.chc.org.uk