Neidio i'r prif gynnwy

Sefydlwyd Rhaglen Genedlaethol COVID-19 Nosocomiaidd

Sefydlwyd Rhaglen Genedlaethol COVID-19 Nosocomiaidd mewn ymateb uniongyrchol i Bandemig COVID-19.

Ystyr "nosocomiaidd" yw unrhyw haint, gan gynnwys COVID-19, sy'n cael ei ddal pan fo gofal iechyd yn cael ei ddarparu. Ystyrir bod haint sy'n cael ei ddal yn yr ysbyty neu mewn lleoliad gofal iechyd yn ddigwyddiad diogelwch cleifion. Mae hynny’n golygu bod darpariaethau'r broses Gweithio i Wella yn berthnasol.

Erbyn hyn, mae Fframwaith Cenedlaethol a rhaglen waith wedi’u llunio i gefnogi dull cenedlaethol cyson o gynnal ymchwiliadau yn dilyn digwyddiadau diogelwch cleifion oherwydd COVID-19 nosocomiaidd. Mae’r Gweinidogion yn cefnogi’r rhaglen waith hon. 

Nod y ddogfen hon yw rhoi atebion i gwestiynau cyffredin ynglŷn â'r rhaglen. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y bydd gan gleifion a theuluoedd ymholiadau manylach. Ar ddiwedd y ddogfen hon, ceir manylion cyswllt ar gyfer pob Bwrdd Iechyd ac Ymddiriedolaeth. Gellir defnyddio’r manylion hyn i godi ymholiadau unigol er mwyn i’r sefydliad priodol ymateb iddynt yn uniongyrchol.

Cwestiynau Cyffredin Cleifion a Theuluoedd yma.