Mae Cyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan (CIC) yn ffurfio cysylltiad lleol rhwng y rhai sydd yn rhedeg y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a’r rhai sydd yn ei ddefnyddio. Mae gan CIC Aneurin Bevan 36 o Aelodau Llawn ac 11 o Aelodau Cyfetholedig, yn cynnwys cynrychiolwyr gwirfoddol o’r gymuned leol. Penodir pob aelod, ac eithrio’r aelodau cyfetholedig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac un chwarter wedi’u henwebu gan yr Awdurdod Lleol, un chwarter gan y sector Gwirfoddol ac un hanner wedi’u dethol yn uniongyrchol gan y Gweinidog.
CICau yw'r cyngor defnyddwyr annibynnol ar gyfer y GIG. Fe’u sefydlwyd ym 1974 i fonitro ac adolygu gweithrediad gwasanaethau iechyd lleol ac i argymell gwelliannau. Mae’n ddyletswydd cyfreithiol ar CICau i gynrychioli buddiannau cleifion a’r cyhoedd yn y GIG.
BETH MAE’R CYNGOR IECHYD CYMUNED YN EI WNEUD
- Monitro ansawdd y gwasanaeth lleol
- Gwneud awgrymiadau ar gyfer gwelliannau yn safon gofal iechyd
- Gweithredu fel eiriolydd cleifion trwy roi cyngor, gwybodaeth a chymorth wrth wneud cwyn
- Gwrando ar eich sylwadau
SUT MAE EICH CYNGOR IECHYD CYMUNED YN EICH CYNRYCHIOLI CHI?
- Gwrando ar farn y cyhoedd a chleifion
- Cynnal adolygiadau annibynnol i ddarganfod barn cleifion a’r cyhoedd
- Cynnwys pobl mewn ymgynghoriadau lleol
- Ymateb i ymgynghoriadau ar newidiadau i wasanaethau iechyd lleol
- Argymell gwelliannau i wasanaethau lleol