9yngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan, y cyrff gwarchod gwasanaeth Iechyd ar gyfer Gwent. Mae Gwent yn ne Cymru ac mae’n cynnwys Bwrdeistrefi Blaenau Gwent, Caerffili a Thorfaen, Dinas Casnewydd a Sir Fynwy.
PWY YDYM NI
Mae Cyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan (CIC) yn ffurfio cysylltiad lleol rhwng y rhai sydd yn rhedeg y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a’r rhai sydd yn ei ddefnyddio. Mae gan CIC Aneurin Bevan 37 o Aelodau Llawn ac 11 o Aelodau Cyfetholedig, yn cynnwys cynrychiolwyr gwirfoddol o’r gymuned leol. Penodir pob aelod, ac eithrio’r aelodau cyfetholedig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac un chwarter wedi’u henwebu gan yr Awdurdod Lleol, un chwarter gan y sector Gwirfoddol ac un hanner wedi’u dethol yn uniongyrchol gan y Gweinidog.
CICau yw'r cyngor defnyddwyr annibynnol ar gyfer y GIG. Fe’u sefydlwyd ym 1974 i fonitro ac adolygu gweithrediad gwasanaethau iechyd lleol ac i argymell gwelliannau. Mae’n ddyletswydd cyfreithiol ar CICau i gynrychioli buddiannau cleifion a’r cyhoedd yn y GIG.
BETH MAE’R CYNGOR IECHYD CYMUNED YN EI WNEUD:
- Monitro ansawdd y gwasanaeth lleol
- Gwneud awgrymiadau ar gyfer gwelliannau yn safon gofal iechyd
- Gweithredu fel eiriolydd cleifion trwy roi cyngor, gwybodaeth a chymorth wrth wneud cwyn
- Gwrando ar eich sylwadau
SUT MAE EICH CYNGOR IECHYD CYMUNED YN EICH CYNRYCHIOLI CHI?
Monitro gwasanaethau iechyd
Mae Cynghorau Iechyd Cymuned bob amser wedi cael hawl statudol i ymweld ag ysbytai a chlinigau, ac erbyn hyn mae ganddynt yr awdurdod i gynnwys sefydliadau gofal sylfaenol lle y cyflwynir gwasanaethau GIG. Mae hyn yn cynnwys meddygfeydd, deintyddion, optegwyr, fferyllwyr a chartrefi nyrsio.
- Mae nifer o gymunedau gwahanol ac amrywiol mewn ardal mor fawr â Gwent. Cynhelir ymweliadau â safleoedd y prif ysbytai a sefydliadau iechyd meddwl ar sail Gwent gyfan ac aelodau yn eu hardaloedd unigol sydd yn ymweld â meddygfeydd ac ysbytai cymuned.
- Yn ychwanegol at yr ymweliadau monitro sydd wedi’u trefnu, gellir galw ar grŵp o aelodau ar fyr rybudd i gynnal ymweliad Ymateb Cynnar sydd efallai wedi deillio o bryderon a dderbyniwyd am agweddau triniaeth, gofal neu amgylchedd
- Mae cysondeb, effeithlonrwydd a sensitifrwydd yn ffactorau pwysig wrth gynnal ymweliadau monitro a rhaid i aelodau fod wedi derbyn hyfforddiant ac unrhyw arweiniad angenrheidiol i’w cynorthwyo gyda’r gwaith hwn.
Rydym yn:
- Ystyried materion iechyd o safbwynt y cyhoedd
- Ymweld â gwasanaethau lleol, i glywed am brofiadau cleifion a’r rheini sy’n gofalu a phoeni amdanynt
- Edrych ar gynlluniau a chynigion GIG lleol a chenedlaethol, i sicrhau eu bod yn cwrdd ag anghenion cymunedau lleol
- Cwrdd â rheolwyr GIG yn rheolaidd
- Siarad â phobl yn eu cymunedau am eu barnau am, a’u profiadau o wasanaethau GIG
- Darparu gwasanaeth eiriolaeth cwynion di-dâl, cyfrinachol ac annibynnol, i bobl sydd eisiau cymorth i godi pryder am ofal a thriniaeth GIG.