Crëwyd Safonau’r Gymraeg oherwydd mesur a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2011, sef Mesur y Gymraeg (Cymru).
Pwrpas Safonau’r Gymraeg yw:
- “Ei gwneud yn fwy eglur i sefydliadau beth yw eu dyletswyddau mewn perthynas â’r Gymraeg
- Ei gwneud yn fwy eglur i siaradwyr Cymraeg pa wasanaethau y gallant ddisgwyl eu cael yn Gymraeg
- Sicrhau mwy o gysondeb o ran gwasanaethau Cymraeg a gwella eu hansawdd i ddefnyddwyr
Rhaid i bob sefydliad gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gydymffurfio â dyletswyddau iaith. O 30 Mai 2019 ymlaen, rhaid i’r Bwrdd CICau a CICau yng Nghymru ddilyn y Safonau Iaith sy’n berthnasol iddynt. Gallwch gael gwybod mwy (gan gynnwys pa safonau sy’n berthnasol) ar wefan Comisiynydd y Gymraeg
http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/Cymraeg/Pages/Hafan.aspx