Neidio i'r prif gynnwy

Ein Cyfarfodydd

Mae’r Cyngor Iechyd Cymuned yn cynnal cyfarfodydd yn rheolaidd ac mae aelodau o'r cyhoedd yn cael eu gwahodd i fod yn bresennol. 

Calendr o gyfarfodydd CIC: Ebril 2022 - 2023

Yn ystod y pandemig coronafirws, mae ein holl staff ac aelodau'n gweithio gartref. Nid ydym yn cael cyfarfodydd wyneb yn wyneb. Yn lle, rydym yn ynnal ein cyfarfodydd pwyllgor fel cyfarfodydd rhithwir. Maent yn parhau i fod ar agor i'r cyhoedd, trwy Microsoft Teams. 

Os hoffech weld ein cyfarfodydd pwyllgor trwy fideo-gynadledda, cysylltwch â ni trwy ebost  enquiries.aneurinbevanchc@waleschc.org.uk neu dros y ffôn ar 01633 838516 o leiaf 4 diwrnod cyn cyfarfod pwyllgor. Mae hyn er mwyn i ni allu gwirio bod gennych y dechnoleg sydd ei hangen arnoch i weld y cyfarfod.

Er nad ydym bellach yn cael cyfarfodydd wyneb yn wyneb, rydym yn dal eisiau i chi allu dod i wybod am ein gweithgareddau a'r penderfyniadau a gymerwn.

Ein nod yw:

  • cyhoeddi rhybudd cyhoeddus bythefnos cyn i'r cyfarfod gael ei gynnal
  • cyhoeddi'r agenda ar gyfer cyfarfod pwyllgor rhithwir o leiaf 5 diwrnod cyn i ni gwrdd
  • cyhoeddi briff neu gofnodion drafft o gyfarfod pwyllgor rhithwir yn ystod yr wythnos ar ôl i ni gwrdd.

Byddwn hefyd yn gweld a allwn ‘lifio’n fyw’ ein cyfarfodydd pwyllgor ar y rhyngrwyd.

Byddwn yn e-bostio ein papurau pwyllgor cyhoeddus atoch os gofynnwch amdanynt.

Gallwch hefyd anfon e-bost neu ein ffonio a gofyn cwestiynau am yr hyn yr ydym yn ei wneud gan ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.